Exodus 32:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy'r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gwisgwch eich cleddyfau! Ewch drwy'r gwersyll, o un pen i'r llall, a lladd eich brodyr, eich ffrindiau a'ch cymdogion!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd wrthynt, "Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: 'Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn l a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.'"