Exodus 32:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr ARGLWYDD; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Dych chi wedi pechu'n ofnadwy. Ond dw i am fynd yn ôl i fyny at yr ARGLWYDD. Falle y galla i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw, iddo faddau i chi am eich pechod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, "Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod."