Exodus 32:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a'r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n codi'n gynnar y bore wedyn a cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Eisteddodd y bobl i lawr i wledda ac yfed, ac yna codi i ymgolli mewn rhialtwch paganaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth codasant yn gynnar ac offrymu poethoffrymau, a dod heddoffrymau; yna eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, ac ymroi i gyfeddach.