Exodus 32:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Buan y ciliasant o'r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw eisoes wedi troi i ffwrdd oddi wrth beth wnes i orchymyn — maen nhw wedi gwneud eilun ar siâp tarw ifanc, ac wedi ei addoli ac aberthu iddo a dweud, ‘O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â ti allan o'r Aifft!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, 'Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth thi i fyny o wlad yr Aifft.'"