Exodus 33:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a'r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd pawb yn gweld y golofn o niwl yn sefyll wrth y fynedfa, bydden nhw'n dod i sefyll wrth fynedfa eu pebyll eu hunain, ac yn addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welai'r holl bobl y golofn o gwmwl yn aros wrth ddrws y babell, byddai pob un ohonynt yn codi ac yn addoli wrth ddrws ei babell ei hun.