Exodus 33:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ddywedodd wrth yr ARGLWYDD, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Mi a'th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ti wedi bod yn dweud wrtho i, ‘Tyrd â'r bobl yma allan,’ ond dwyt ti ddim wedi gadael i mi wybod pwy fydd yn mynd hefo fi. Rwyt ti hefyd wedi dweud, ‘Dw i wedi dy ddewis di, ac wedi bod yn garedig atat ti.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyt yn dweud wrthyf am ddod 'r bobl hyn i fyny, ond nid wyt wedi rhoi gwybod i mi pwy yr wyt am ei anfon gyda mi. Dywedaist, 'Yr wyf yn dy ddewis di, a chefaist ffafr yn fy ngolwg.'