Exodus 33:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a'th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a'th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sut arall mae pobl yn mynd i wybod mor garedig rwyt ti wedi bod ata i a dy bobl? Sut arall maen nhw i wybod ein bod ni'n sbesial ac yn wahanol i bawb arall drwy'r byd i gyd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd sut y bydd neb yn gwybod fy mod i a'th bobl wedi cael ffafr yn dy olwg, os na fyddi'n mynd gyda ni? Dyna sy'n fy ngwneud i a'th bobl yn wahanol i bawb arall ar wyneb y ddaear."