Exodus 33:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i'm holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr ARGLWYDD o'th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i am adael i ti gael cipolwg bach o mor dda ydw i. A dw i'n mynd i gyhoeddi fy enw, ‘yr ARGLWYDD’ o dy flaen di. Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau, "Gwnaf i'm holl ddaioni fynd heibio o'th flaen, a chyhoeddaf fy enw, ARGLWYDD, yn dy glyw; a dangosaf drugaredd a thosturi tuag at y rhai yr wyf am drugarhau a thosturio wrthynt.