Exodus 33:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a gymerodd y babell, ac a'i lledodd o'r tu allan i'r gwersyll, ymhell oddi wrth y gwersyll; ac a'i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr ARGLWYDD, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o'r tu allan i'r gwersyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai Moses yn cymryd y babell, ac yn ei chodi tu allan i'r gwersyll, gryn bellter i ffwrdd. Galwodd hi yn babell cyfarfod Duw. Os oedd rhywun eisiau gwybod rhywbeth gan yr ARGLWYDD, byddai'n mynd at y babell yma tu allan i'r gwersyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arferai Moses gymryd pabell a'i gosod y tu allan i'r gwersyll, bellter oddi wrtho, ac fe'i galwodd yn babell y cyfarfod. Yr oedd pob un a fyddai'n ceisio'r ARGLWYDD yn mynd at babell y cyfarfod y tu allan i'r gwersyll.