Exodus 34:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a'r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gânt weled gwaith yr ARGLWYDD: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Duw, “Iawn. Dw i'n gwneud ymrwymiad. Dw i'n mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi eu dychmygu o'r blaen. Bydd y bobl rwyt ti'n byw yn eu canol nhw yn gweld beth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud. Dw i'n gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngu373?ydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud thi beth syfrdanol.