Exodus 34:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a aeth heibio o'i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y DUW trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: "Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb;