Exodus 35:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond daeth rhai, oedd wedi eu sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a cyflwyno eu rhoddion i'r ARGLWYDD — rhoddion tuag at godi Pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig.