Exodus 35:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a'r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod — dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math — broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly daethant, yn wu375?r a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD.