Exodus 35:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob un a'r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD: a phob un a'r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd pob un a allai gyflwyno offrwm o arian neu bres yn dod ag ef i'r ARGLWYDD; ac yr oedd pob un a chanddo goed acasia addas ar gyfer y gwaith yn dod hwy.