Exodus 36:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i'w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi eu hoffrymu i'r gwaith o godi'r cysegr. Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a derbyniasant gan Moses bob offrwm a roesai pobl Israel o'u gwirfodd ar gyfer y gwaith yng ngwasanaeth y cysegr. Yr oedd y bobl yn dal i ddod ag offrwm ato o'u gwirfodd bob bore;