Exodus 36:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[31-32] Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia — pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,