Exodus 36:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur; a'u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a pedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth ar ei gyfer bedair colofn o goed acasia, a'u goreuro; yr oedd eu bachau o aur, a lluniodd ar eu cyfer bedwar troed arian.