Exodus 36:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl rai celfydd, o'r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl gyda deg llen o'r lliain main gorau gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr holl rai medrus ymhlith y gweithwyr wedi gwneud y tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu, ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwno'n gywrain arnynt.