Exodus 37:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, oedd o'r un.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur — gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn — y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.