Exodus 37:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyllbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen — pob blodyn gyda calycs a petalau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.