Exodus 38:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
o'r mil saith gant saith deg a phum sicl, gwnaeth fachau ar gyfer y colofnau, a goreurodd ben uchaf y colofnau a'u cylchau.