Exodus 39:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o'r sidan glas, a'r porffor, a'r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchmynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n gwneud gwisgoedd i'r rhai fyddai'n gwasanaethu yn y cysegr — gwisgoedd wedi eu brodio'n hardd gydag edau las, porffor a coch. Gwisgoedd cysegredig i Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.