Exodus 39:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi ei gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod — allan o liain main wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth y ddwyfronneg o grefftwaith cywrain; fe'i gwnaeth, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.