Exodus 4:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Pwy roddodd geg i ddyn yn y lle cyntaf? Pwy sy'n gwneud rhai yn fud, eraill yn fyddar, rhai yn gweld ac eraill yn ddall? Onid fi, yr ARGLWYDD?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Pwy a roes enau i feidrolyn? Pwy a'i gwna yn fud neu'n fyddar? Pwy a rydd iddo olwg, neu ei wneud yn ddall? Onid myfi, yr ARGLWYDD?