Exodus 4:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Erbyn hyn roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Moses, “Iawn! Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Dw i'n gwybod ei fod e'n gallu siarad yn dda. Mae e ar ei ffordd i dy gyfarfod di. Bydd e wrth ei fodd pan fydd e'n dy weld di!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digiodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dywedodd, "Onid Aaron y Lefiad yw dy frawd? Gwn y gall ef siarad yn huawdl; y mae ar ei ffordd i'th gyfarfod, a bydd yn falch o'th weld.