Exodus 4:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Moses yn mynd yn ôl adre at Jethro, ei dad-yng-nghyfraith, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd yn ôl at fy mhobl yn yr Aifft, i weld os ydyn nhw'n dal yn fyw.” A dyma Jethro'n dweud wrtho, “Dos, a bendith arnat ti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dychwelodd Moses at Jethro ei dad-yng-nghyfraith a dweud wrtho, "Gad imi fynd yn l at fy mhobl sydd yn yr Aifft i weld a ydynt yn dal yn fyw." Dywedodd Jethro wrtho, "Rhwydd hynt iti."