Exodus 4:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pan ei di yn ôl i'r Aifft, gwna'n siŵr dy fod yn gwneud yr holl wyrthiau rhyfeddol dw i wedi rhoi'r gallu i ti eu gwneud o flaen y Pharo. Ond bydda i'n ei wneud e'n ystyfnig, a bydd e'n gwrthod gadael i'r bobl fynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Wedi iti ddychwelyd i'r Aifft, rhaid iti wneud o flaen Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy allu; ond byddaf yn caledu ei galon ac ni fydd yn gollwng y bobl yn rhydd.