Exodus 40:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd yr allor i losgi'r offrymau o flaen y fynedfa i'r Tabernacl hefyd, sef Pabell Presenoldeb Duw. Yna cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau o rawn arni fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.