Exodus 40:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydden nhw'n ymolchi bob tro roedden nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw neu'n mynd at yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.