Exodus 5:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Pharo, Pwy yw yr ARGLWYDD, fel y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr ARGLWYDD nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r Pharo'n ateb, “A pwy ydy'r ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd ychwaith!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Pharo, "Pwy yw yr ARGLWYDD? Pam y dylwn i ufuddhau iddo a gollwng Israel yn rhydd? Nid wyf yn adnabod yr ARGLWYDD, ac felly nid wyf am ollwng Israel yn rhydd."