Exodus 5:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhifedi'r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o'r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny: canys segur ydynt; am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i'n DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o friciau ac o'r blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Mae'n amlwg eu bod nhw'n slacio, a dyna pam maen nhw'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'n Duw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gofalwch eu bod yn cynhyrchu'r un nifer o briddfeini chynt, a pheidiwch lleihau'r nifer iddynt. Y maent yn ddiog, a dyna pam y maent yn gweiddi am gael mynd i aberthu i'w Duw.