Exodus 6:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o'i wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb Moses, “Cei weld beth fydda i'n ei wneud i'r Pharo. Bydda i'n defnyddio fy nerth i'w orfodi e i'w gollwng nhw'n rhydd, a bydd e'n eu gyrru nhw allan o'i wlad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad."