Exodus 6:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a lefarodd gerbron yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y'm gwrandawai Pharo, a minnau yn ddienwaededig o wefusau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Moses yn ateb yr ARGLWYDD, “Dydy pobl Israel ddim yn fodlon gwrando, felly pam ddylai'r Pharo wrando arna i? Dw i'n siaradwr gwael.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, "Nid yw pobl Israel wedi gwrando arnaf; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf, a minnau nam ar fy lleferydd?"