Exodus 6:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron fod rhaid iddyn nhw fynd yn ôl at bobl Israel ac at y Pharo, am eu bod i arwain pobl Israel allan o wlad yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, a rhoi gorchymyn iddynt ynglu375?n phobl Israel a Pharo brenin yr Aifft, er mwyn rhyddhau'r Israeliaid o wlad yr Aifft.