Exodus 6:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd mi a'ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn DDUW i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n mynd i'ch gwneud chi yn bobl i mi fy hun. Fi fydd eich Duw chi. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o fod yn gaethweision yn yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'ch cymeraf yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw i chwi; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch rhyddhaodd o orthrwm yr Eifftiaid.