Exodus 7:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed wrtho ef, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a'm hanfonodd atat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti i ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw fy addoli i yn yr anialwch!” Ond hyd yn hyn rwyt ti wedi gwrthod gwrando.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed wrtho, 'Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi fy anfon atat i ddweud, "Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli yn yr anialwch"; ond hyd yn hyn nid wyt wedi ufuddhau iddo.'