Exodus 7:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a'r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o'r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r pysgod yn yr afon yn marw, ac roedd y dŵr yn drewi mor ofnadwy, doedd pobl yr Aifft ddim yn gallu ei yfed. Roedd gwaed drwy wlad yr Aifft i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu farw'r pysgod oedd ynddi, ac yr oedd yr afon yn drewi cymaint fel na allai'r Eifftiaid yfed du373?r ohoni; ac yr oedd gwaed trwy holl wlad yr Aifft.