Exodus 7:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma ddewiniaid yr Aifft yn gwneud yr un peth drwy hud a lledrith. Felly roedd y Pharo mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gwrando ar Moses ac Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd swynwyr yr Aifft hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin; felly caledodd calon Pharo, ac ni fynnai wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.