Exodus 7:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan lefaro Pharo wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymer dy wialen, a bwrw hi gerbron Pharo; a hi a â yn sarff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fydd y Pharo yn dweud, ‘Dangoswch wyrth i mi,’ dywed wrth Aaron am daflu ei ffon ar lawr o flaen y Pharo, a bydd y ffon yn troi'n neidr anferth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, 'Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.'"