Exodus 8:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â'i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna wnaethon nhw. Dyma Aaron yn estyn ei ffon a taro'r pridd ar lawr, ac roedd gwybed ym mhobman, ar bobl ac anifeiliaid. Trodd y pridd ar lawr yn wybed ym mhobman drwy wlad yr Aifft i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaethant hynny; estynnodd Aaron ei law allan, a tharo llwch y ddaear 'i wialen, a throes y llwch yn llau ar ddyn ac anifail; trodd holl lwch y ddaear yn llau trwy wlad yr Aifft i gyd.