Exodus 8:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo; wele, efe a ddaw allan i'r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Coda'n fore, a sefyll o flaen y Pharo pan fydd yn mynd i lawr at yr afon. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, “Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Cod yn gynnar yn y bore i gyfarfod Pharo wrth iddo fynd tua'r afon, a dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli;