Exodus 8:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th dai, gymysgbla: a thai'r Eifftiaid a lenwir o'r gymysgbla, a'r ddaear hefyd yr hon y maent arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os byddi di'n gwrthod gadael i'm pobl fynd, dw i'n mynd i anfon heidiau o bryfed i dy boeni di, dy swyddogion a dy bobl. Bydd eich tai yn llawn pryfed, byddan nhw hyd yn oed ar lawr ym mhobman.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd, os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn anfon haid o bryfed arnat ti, dy weision, dy bobl a'th dai. Bydd tai'r Eifftiaid a'r tir danynt yn orlawn o bryfed.