Exodus 8:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i'r ARGLWYDD ein DUW ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Moses yn ateb, “Na, fyddai hynny ddim yn beth call i'w wneud. Bydden ni'n tramgwyddo pobl yr Aifft gyda'r aberthau dŷn ni'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ein Duw. Os byddan nhw'n ein gweld ni'n aberthu, byddan nhw'n dechrau taflu cerrig aton ni i'n lladd ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Moses, "Ni fyddai'n briodol inni wneud hynny, oherwydd byddwn yn aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid; ac os aberthwn yn eu gu373?ydd bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid, oni fyddant yn ein llabyddio?