Exodus 8:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i'th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr Afon Nil yn llawn ohonyn nhw. A byddan nhw'n dod i mewn i'r palas, i dy ystafell wely di, a hyd yn oed ar dy wely! Byddan nhw'n mynd i mewn i dai pawb. Byddan nhw ym mhob ffwrn a phowlen a phadell!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th du375? ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino.