Exodus 8:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â'th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed wrth Aaron am estyn ei ffon dros yr afonydd, y camlesi a'r corsydd, a gwneud i lyffaint ddod allan dros wlad yr Aifft i gyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron, 'Estyn dy law a'th wialen dros y ffrydiau, yr afonydd a'r llynnoedd, a gwna i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.'"