Exodus 8:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ddywedodd wrth Pharo, Cymer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa'r llyffaint oddi wrthyt, ac o'th dai, a'u gadael yn unig yn yr afon?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn ateb y Pharo, “Iawn, cei di'r fraint o ddweud pryd wyt ti eisiau i mi weddïo. Pryd wyt ti eisiau i'r llyffaint gael eu symud o'ch tai chi, fel bod dim ar ôl ond y rhai sydd yn yr Afon Nil?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrth Pharo, "Gad imi wybod pryd yr wyf i weddo drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig." Meddai yntau, "Yfory."