Exodus 9:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y cenllysg yn syrthio, a'r mellt yn fflachio yn ôl a blaen. Roedd yn bwrw mor drwm, fuodd yna erioed storm debyg iddi yn holl hanes gwlad yr Aifft.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd cenllysg yn disgyn a mellt yn fflachio yn ei ganol; yr oedd y cenllysg yn drymach na dim a welwyd yn holl wlad yr Aifft er pan sylfaenwyd hi yn genedl.