Exodus 9:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a'r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y cenllysg yn taro popeth oedd allan yn y caeau — pobl ac anifeiliaid, a'r cnydau drwy'r wlad i gyd. Roedd hyd yn oed y coed wedi cael eu dryllio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trawodd y cenllysg bopeth oedd yn y maes, yn ddyn ac anifail, trwy holl wlad yr Aifft; curodd ar yr holl lysiau a drylliodd bob coeden.