Exodus 9:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o'r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr ARGLWYDD: a'r taranau a beidiant, a'r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr ARGLWYDD biau y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn dweud wrtho, “Pan fydda i wedi mynd allan o'r ddinas, bydda i'n codi fy nwylo ac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. Bydd y taranau a'r cenllysg yn stopio. Byddi'n deall wedyn mai'r ARGLWYDD sydd piau'r ddaear yma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrtho, "Pan af allan o'r ddinas, estynnaf fy nwylo at yr ARGLWYDD; bydd diwedd ar y taranau, ac ni bydd rhagor o genllysg, er mwyn iti wybod mai eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear.