Exodus 9:35 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y Pharo yn hollol ystyfnig, ac yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly caledwyd calon Pharo, ac ni ryddhaodd yr Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud trwy Moses.